|
Nod trefnwyr yr uchod yw cael 2,000 o ysgolion a grwpiau
cymunedol ar draws y DG i gydganu| cân a gyfansoddwyd yn arbennig
ar gyfer ei chanu ar 5 Tachwedd, mewn unrhyw fan o'ch dewis. Cyfansoddwyd
y gân, Each Day, gan y cyfansoddwr Prydeinig enwog, Alec Roth.
Peidiwch poeni os nad ydych yn naturiol gerddorol, fe gewch gennym
bopeth fyddwch ei angen ar gyfer cymryd rhan, yn cynnwys CD gyda
gwahanol fersiynau o'r gân a chefndir addas o gerddoriaeth
os nad oes gennych eich cyfeiliant eich hun. Cewch drwy'r post,
neu gallwch lawrlwytho o'n gwefan, nodiadau ar dechneg canu, ac
awgrymiadau sut i ddefnyddio'r cyflwyniad gorffenedig ar gyfer gwella
proffil, codi arian, meithrin cysylltiadau cymunedol a chysylltu
gyda sefydliadau cerdd. Drwy ddefnyddio fideo pwrpasol gallwch hefyd
ddysgu a chyflwyno arwyddion canu syncronaidd.
Cofrestrwch ac fe gewch becyn digwyddiad am ddim ac ynddo ganllawiau
'sut i' addysgu plant i ganu. Mae gennym hefyd wobrau ardderchog
y gall grwpiau eu hennill.
Rydym yn awyddus i'ch cael i ymuno â'r ymgyrch cynyddol i
ddod a chanu yn ôl i'n hysgolion a'n cymunedau.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad.
|
|